close
Neidio i'r cynnwys

Borobudur

Oddi ar Wicipedia
Borobudur
Delwedd:Borobudur-Nothwest-view.jpg, Pradaksina.jpg
MathBuddhist temple, safle archaeolegol, Candi o Indonesia Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAdeiladau Teml Borobudur Edit this on Wikidata
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Arwynebedd25.38 ha, 62.57 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau7.60793°S 110.20384°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Teml Borobudur

Mae Borobudur yn deml Fwdhaidd (o'r traddodiad Mahayana) ar ynys Jafa, Indonesia. Mae'n dyddio o'r 9g ac yn cynnwys naw gwahanol lefel, y chwech isaf yn sgwar a'r tri uchaf yn grwn. Mae 2,672 o baneli cerfluniau a 504 cerflun o'r Bwda. Ar ran uchaf y deml mae 72 stwpa, pob un yn cynnwys cerflun o'r Bwdha, yn amgylchynu stwpa mawr canolog, sy'n wag. Saif rhyw 40 km i'r gogledd-orllewin o Yogyakarta yng nghanolbarth yr ynys.

Gall pererinion ddilyn taith o waelod y deml i'r rhan uchaf, gan basio trwy y tair lefel yn y gosmoleg Fwdaidd, sef Kamadhatu (byd y chwantau), Rupadhatu (byd y ffurfiau) ac Arupadhatu (byd y di-ffurf).

Nid oes cofnod ysgrifenedig o bwy a adeiladodd Borobudur na pha bryd, ond ystyrir i'r gwaith ddechrau tua 800 a'i orffen rhyw 75 mlynedd wedyn. Credir na ddefnyddiwyd Borobudur wedi i Fwdiaeth ddirywio ar ynys Jafa yn y 14g a throedigaeth y mwyafrif o'r boblogaeth i Islam. Mae llawer o waith wedi ei wneud i drwsio a diogelu'r deml yn y blynyddoedd diwethaf, a Borobudur yw'r gyrchfan fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn Indonesia.

Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.