Calendr Adfent
| Enghraifft o: | traddodiad Nadoligaidd, digwyddiad sy'n ailadrodd, material entity |
|---|---|
| Math | Christmas calendar |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/034yc3 |

Calendr arbennig sy'n cael ei ddefnyddio i gyfri'r dyddiau tan y Nadolig yw'r calendr Adfent.[1] Gan fod dyddiad Sul cyntaf yr Adfent yn amrywio rhwng Tachwedd 27 a Rhagfyr 3, mae'r rhan fwyaf o galendrau Adfent yn dechrau ar Rhagfyr 1, ond mae'r rhai sy'n ar gyfer blynyddoedd penodol weithiau yn cynnwys dyddiau olaf Tachwedd fel rhan o'r tymor litwrgaidd.[2][3] Cafodd y calendr Adfent ei ddefnyddio gyntaf gan Lutheriaid Almaenig yn y 19g a'r 20g.[4][5]
Mae calendrau Adfent traddodiadol yn cyflwyno stori'r Geni, ond mae'r ffurf bellach wedi'i datblygu fel bod rhai i'w cael ar nifer o wahanol themau (e.e. cyfresi teledu plant). Mae rhai sydd â lluniau yn unig y tu ôl i'r drysau, ac eraill yn cynnwys danteithion neu roddion bychain; rhai i'w defnyddio unwaith ac eraill i'w hailddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Penney, Sue (1999). Christianity (yn Saesneg). Heinemann. t. 38.
- ↑ "Online Advent calendar created by the world" (yn Saesneg). Anglican Communion News Service. 17 Tachwedd 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ Mac Donald, Sarah (26 Tachwedd 2014). "Primate launches online calendar for Advent" (yn Saesneg). Catholic Ireland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ebrill 2016. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ Mills, T.J. (10 Mai 2010). The Twelve Blessings of Christmas. Thomas Nelson Inc. t. 54.
- ↑ Gassmann, Günther; Larson, Duane H.; Oldenburg, Mark W. (4 Ebrill 2001). Historical Dictionary of Lutheranism. Scarecrow Press. t. 87.