Catania
Gwedd
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 311,584 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Enrico Trantino |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Agatha o Sisili |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Late Baroque Towns of the Val di Noto |
| Sir | Dinas Fetropolitan Catania |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 182.9 km² |
| Uwch y môr | 7 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Aci Castello, Carlentini, Gravina di Catania, Mascalucia, Misterbianco, Motta Sant'Anastasia, San Pietro Clarenza, Tremestieri Etneo, Belpasso, San Gregorio di Catania, Sant'Agata li Battiati, Lentini |
| Cyfesurynnau | 37.502669°N 15.087269°E |
| Cod post | 95121–95131 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Catania City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
| Pennaeth y Llywodraeth | Enrico Trantino |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Dinas a chymuned (comune) ar ynys Sisili yn yr Eidal yw Catania, sy'n ganolfan weinyddol Dinas Fetropolitan Catania. Saif y ddinas ar arfordir dwyreiniol yr ynys sy'n wynebu Môr Ionia.
Dyma'r ail ddinas fwyaf yn Sisili, ar ôl Palermo. Mae'n ganolfan ddiwydiannol, logistaidd a masnachol i'r ynys. Mae ganddi borthladd a seilwaith trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd pwysig, ac mae prif faes awyr Sisili wedi'i leoli yma.
Saif Catania ar waelod Mynydd Etna, sy'n llosgfynydd byw, a thros y canrifoedd mae'r ddinas wedi gweld trychinebau amrywiol ar ôl ffrwydradau a daeargrynfeydd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y comune boblogaeth o 293,902.[1]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 18 Hydref 2022
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan swyddogol
