close
Neidio i'r cynnwys

Craig

Oddi ar Wicipedia
Craig
Mathdefnydd naturiol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebpridd Edit this on Wikidata
Deunyddrock forming minerals, mwyn Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01cbzq edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1585 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Creigiau

Mewn daeareg mae craig neu greigiau yn globynfaen naturiol wedi ei ffurfio o fwynau. Mae ymddangosiad craig yn dibynnu ar ba fwynau sydd ynddo, ac ar ba broses wnaeth lynu'r gronynnau hynny at eu gilydd. Mae creigiau yn ffurfio ac yn trawsnewid drwy'r cylchred creigiau.

Cânt eu eu dosbarthu yn greigiau igneaidd sy'n cael eu ffurfio gan losgfynyddoedd, creigiau gwaddod a chreigiau metamorffig. Creigiau metamorffig yw creigiau igneaidd neu waddodol wedi'u newid gan wres neu wasgfa. Creigiau sy'n dod o'r gofod y tu hwnt i'r Ddaear yw sêr gwib.

Gall creigiau fod yn fandyllog - mae hyn yn golygu eu bod yn gallu amsugno dŵr yn hawdd a meddalu. Mae hyn am fod tyllau bychain rhwng y gronynnau mwynau yn y graig sy'n galluogi i ddŵr dreiddio rhyngddynt. Mae sialc yn enghraifft o graig fandyllog.

Gweddillion anifeiliaid a phlanhigion mewn creigiau yw ffosilau. Gall gwyddonwyr ddefnyddio ffosilau i amcangyfrif pa mor hir yn ôl y ffurfiodd creigiau.[1] Mae dyddio radiometrig yn ddull arall o ganfod oed craig drwy edrych ar ddirywiad y mwynau ymbelydrol sydd ynddo.

Petroleg yw'r enw ar astudiaeth creigiau (o pétros, y gair Groeg am graig). Mwyngloddio yw'r broses o gloddio am greigiau er mwyn tynnu'r mwynau gwerthfawr ohonynt. Mae dynoliaeth wedi defnyddio creigiau fel offer ac arfau ers Oes y Cerrig. Daeth creigiau megis gwenithfaen a llechfaen yn ddeunydd pwysig ar gyfer adeiladu. Wrth i dechnoleg ddatblygu, crëwyd mathau artiffisial o gerrig gan gynnwys concrit.

Mathau o greigiau

[golygu | golygu cod]

Creigiau igneaidd

[golygu | golygu cod]

Creigiau gwaddod

[golygu | golygu cod]

Creigiau metamorffig

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rock cycle (geology) | Geology | Research Starters | EBSCO Research". EBSCO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-10.