close
Neidio i'r cynnwys

Iwan Thomas

Oddi ar Wicipedia
Iwan Thomas
Ganwyd5 Ionawr 1974 Edit this on Wikidata
Farnborough Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stamford School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Athletwr (rhedwr) o Gymru sydd wedi cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y Gemau Olympaidd a Chymru yng Ngemau'r Gymanwlad yw Iwan Thomas (ganwyd 5 Ionawr 1974). Bu hefyd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Ewrop (athletau).

Mike Smith oedd ei hyfforddwr am y rhan fwyaf o'i yrfa.

Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996, Atlanta roedd yn 5ed yn y ffeinal a derbyniodd Arian yn y ras gyfnewid dynion 4 x 400m. Cynrychiolodd y tîm yng Ngemau Olympaidd 2000 hefyd, ond ni ddewisiwyd ef ar y diwrnod am y ras unigol, er mai ef oedd rhedwr cyflymau tîm 'Prydain'.

Roedd hefyd yn aelod o dîm 4 × 400 m Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn 1997 yn Athens a gwbwlhaodd y ras mewn 0.18 yn arafach nag UDA, gan ddod yn ail. Yn 2008, mynegodd aelod o dîm Prydain iddo gymeryd cyffuriau rhwng 1997 a 2001, gan gynnwys y tro hwnnw yn 1997. Gan i hyn ddigwydd dros 8 mlynedd wedi'r gystadleuaeth ni newidiwyd y canlyniad ac arhosodd Prydain ar y Fedal Arian. Er hyn bu i Pettigrew ddychwelyd ei fedalau.[1][2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Scott Gibbs
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1998
Olynydd:
Colin Jackson
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.