Medalau Gee
Cyflwynir Medalau Gee yn flynyddol i ffyddloniaid yr Ysgol Sul yng Nghymru er cof am Thomas a Susannah Gee.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwr, perchennog newyddiaduron a golygydd Cymreig o Ddinbych oedd Thomas Gee.[1] Priododd â Susannah, merch Plas Coch, Llanychan. Credodd a hyrwyddodd y syniad o ddirwest a sefydlodd system i wobrwyo aelodau ffyddlon o’r capel gyda’r hyn a adnabyddir heddiw fel ‘Medalau Gee’.[2]
Bu Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn cydweithio gyda’r teulu i gyflwyno Medalau Gee i ffyddloniaid yr Ysgol Sul ers 1906.[3] Hwn oedd yr hysbyseb a ymddangosodd yn y Faner ym 1905:
Caniatewch i ni hysbysu fod Miss Gee (sef merch Thomas a Sussanah) am roddi pum medal arian i aelodau hynaf yr Ysgol Sul er coffadwriaeth am ei thad a’i mam. Dyma’r amodau i geisio amdanynt: Rhaid i’r ymgeisyddi fod yn 70 oed, ac yn parhau i fynychu yr Ysgol. Rhaid i’r cais gael cymeradwyaeth arolygwr yr Ysgol y mae yr ymgeisydd yn aelod ohoni, a chymeradwyaeth Ysgrifennydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion fyddo’n fwyaf cylfeus iddo. Rhenir y medalau yng nghyfarfod blynyddol Cynghrair Eglwyisi Rhyddion Gogledd Cymru, yr hwn a gynhelir nesaf ym Magillt, Mai 3, 1906.
Yn 2002 cychwynodd Cyngor Ysgolion Sul[4] yr arferiad o gyflwyno medal i rai oedd wedi rhoi cyfraniad arbennig, a hynny ar lefel genedlaethol, i waith yr ysgol Sul a chafwyd cytundeb Cyngor yr Eglwysi Rhyddion.
Presennol
[golygu | golygu cod]Ers 2018 daeth gweinyddu’r cynllun Medalau Gee yn gyfangwbl o dan ofal Cyngor Ysgolion Sul. Dros y blynyddoedd bu Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru a De Cymru (gan gyflwyno medalau Doris Bevan yn y de) yn gwneud y gymwynas honno ond wrth ddirwyn y ddau gyngor i ben penderfynwyd trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Cyngor Ysgolion Sul. O 2018 ymlaen trefnwyd dau gyfarfod blynyddol, un yn y gogledd ac un yn y de yn ystod mis Medi. Ers y cyfnod clo penderfynwyd ymweld ag eglwysi lleol y sawl a oedd yn derbyn y fedal ac yn dilyn llwyddiant y cyfarfodydd hynny, penderfynwyd parhau gyda’r arfer o ymweld â chynulleidfaoedd lleol i gyflwyno’r medalau.
Rheolau cystadlu
[golygu | golygu cod]Gwahoddir ceisiadau am fedalau gan aelodau sydd dros 75 oed ac yn dal i fynychu’r Ysgol Sul.[5] Datblygiad pellach, wrth drosglwydo’r cyfrifoldeb o’r Cyngor Eglwysi Rhyddion i Cyngor Ysgolion Sul yw bod modd i aelodau o’r Eglwys yng Nghymru hefyd wneud cais am fedalau. Mae croeso i Ysgolion Sul enwebu medalwyr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond rhaid i unrhyw gais ar gyfer y flwyddyn gyfredol fod mewn llaw erbyn diwedd Mehefin y flwyddyn honno a chyflwynir y medalau yn ystod mis Medi/Hydref.[6]
Cyferiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "GEE, THOMAS (1815 - 1898), pregethwr, newyddiadurwr, gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2026-07-16.
- ↑ "Medalau: Dathlu canrif". BBC Cymru Fyw. 2006-06-22. Cyrchwyd 2026-07-16.
- ↑ "Medalau Coffa Thomas a Susannah Gee yn 100 oed eleni, - Cristion, 135, 2006". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2026-07-16.
- ↑ "Cyflwyno tair Medal Gee" (PDF). Cennad. 17 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Medal Gee i Janet a Dewi". Clonc360. 2021-06-14. Cyrchwyd 2026-07-14.
- ↑ "Ffurflen Gais Medal Goffa Mr a Mrs Thomas Gee" (PDF). Cyrchwyd 17 Mehefin 2026.