Planhigyn unflwydd
Gwedd
| Enghraifft o: | math o blanhigyn |
|---|---|
| Math | planhigyn llysieuaidd |
| Y gwrthwyneb | planhigyn lluosflwydd |
| Olynwyd gan | planhigyn eilflwydd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jqb |
Planhigyn sy'n cwblhau ei gylchred bywyd, o egino i gynhyrchu hadau, o fewn un tymor o dyfiant, ac yna'n marw, yw planhigyn unflwydd. Mae planhigion unflwydd yr haf yn egino yn ystod y gwanwyn neu ddechrau'r haf ac yn aeddfedu erbyn hydref yr un flwyddyn. Mae planhigion unflwydd y gaeaf yn egino yn ystod yr hydref ac yn aeddfedu yn ystod gwanwyn neu haf y flwyddyn ganlynol.