Simonetta Vespucci
Gwedd
| Simonetta Vespucci | |
|---|---|
| Ffugenw | la bella Simonetta |
| Ganwyd | Simonetta Cattaneo 6 Chwefror 1453 Porto Venere, Genova |
| Bu farw | 26 Ebrill 1476 Fflorens |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
| Galwedigaeth | pendefig |
| Priod | Marco Vespucci |
| Llinach | House of Cattaneo, House of Spinola |
- Gweler hefyd: Vespucci

Simonetta Cattaneo de Vespucci (1453 – 26 Ebrill 1476), neu "la bella Simonetta", neu "La Sans Pareille", oedd gwraig Marco Vespucci o Fflorens yn yr Eidal. Honwyd hefyd y bu'n feistres i Giuliano de' Medici, brawd Lorenzo de' Medici, ac roedd yn enwog fel merch harddaf ei chyfnod yn yr Eidal. Ganed hi yn Genova.
Hi a welir yn beintiadau enwog Sandro Botticelli, Genedigaeth Gwener a La Primavera. Ysgrifennodd y beirdd Agnolo Poliziano a Luigi Pulci amdani.
Portreadau
[golygu | golygu cod]- Simonetta Vespucci sy'n portreadu Gwener yn y llun enwog hwn gan Botticelli.

Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Marcello Vannucci, Le donne di casa Medici, Newton Compton Editori, Roma 1999, ristampato nel 2006 ISBN 8854105260
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Aby Warburg (1999). The Renewal of Pagan Antiquity: Contributions to the Cultural History of the European Renaissance. Getty Publications. t. 585. ISBN 978-0-89236-537-1.

