Vikki Howells
| Vikki Howells AS | |
|---|---|
Llun swyddogol, 2026 | |
| Aelod o Senedd Cymru | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
| Rhagflaenwyd gan | Christine Chapman |
| Etholaeth | Cwm Cynon (2016-2026) Pontypridd Cynon Merthyr (2026-presennol) |
| Manylion personol | |
| Cenedligrwydd | Cymraes |
| Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
| Addysg | Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr |
| Alma mater | Prifysgol Cymru, Caerdydd |
| Gwefan | www.vikkihowells.com |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Vikki Howells. Mae'n Aelod o'r Senedd ers 2016, yn gyntaf dros etholaeth Cwm Cynon ac yna Pontypridd Cynon Merthyr ers 2026.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Magwyd Howells yn Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gyrfa addysg
[golygu | golygu cod]Roedd Howells yn athrawes am 16 mlynedd.[2] Cyn ei hethol i'r Cynulliad, roedd yn athrawes hanes a phennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun St Cenydd yng Nghaerffili, De Cymru.[3] Cymerodd absenoldeb drwy ganiatâd i ymgyrchu ar gyfer etholiad, ac fe fyddai wedi dychwelyd i'w gwaith ar y dydd Llun yn dilyn yr etholiad pe na bai hi wedi bod yn llwyddiannus.[1]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd bod Howells wedi cael ei dewis fel ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer etholaeth Cwm Cynon yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.[3] Mae hi wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers dros 20 mlynedd.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,830 pleidlais (51.1% o'r pleidleisiau a fwriwyd).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Tegeltija, Sam (6 Mai 2016). "Assembly Election 2016: Labour holds Cynon as Vikki Howells succeeds Christine Chapman". Wales Online. Cyrchwyd 7 Mai 2016.
- ↑ "Vikki Howells Welsh Labour Assembly candidate for Cynon Valley". VikkiHowellsCynonValley.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-04. Cyrchwyd 7 Mai 2016.
- 1 2 3 Tegeltija, Sam (8 December 2015). "Teacher Vikki Howells announced as Labour's Cynon Valley candidate for National Assembly election". Walses Online. Cyrchwyd 7 Mai 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Vikki Howells ar X
- Gwefan Wleidyddol Archifwyd 2016-06-04 yn y Peiriant Wayback