APEC
| Enghraifft o: | sefydliad rhynglywodraethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 6 Tachwedd 1989 |
| Aelod o'r canlynol | Awstralia, Brwnei, Canada, Indonesia, Japan, De Corea, Maleisia, Seland Newydd, y Philipinau, Singapôr, Gwlad Tai, Unol Daleithiau America, Taiwan, Hong Cong, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mecsico, Papwa Gini Newydd, Tsile, Periw, Rwsia, Fietnam |
| Gweithwyr | 50 |
| Pencadlys | Singapôr |
| Enw brodorol | Asia-Pacific Economic Cooperation |
| Gwladwriaeth | Singapôr |
| Gwefan | https://www.apec.org |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01027r |

Sefydliad rhyngwladol sy'n trefnu cynadleddau i drafod masnach rydd rhwng 21 o wledydd ar ymylon y Môr Tawel yw APEC (Cydweithrediad Economaidd Asia a'r Cefnfor Tawel).[1] Sefydlwyd ym 1989 i greu bloc masnachol o economïau cyd-ddibynnol y Cefnfor Tawel; i wrthbwyso dominyddiaeth Japan ar economi Dwyrain Asia; ac i sefydlu marchnadau newydd y tu hwnt i Ewrop am gynnyrch amaethyddol a defnyddiau crai.[2]
Cynhelir cyfarfod blynyddol gan bob aelod yn eu tro, a fynychir gan holl benaethiaid llywodraethol yr aelod-wladwriaethau ac eithrio Taiwan (a gynrychiolir gan weinidog a elwir yn "arweinydd economaidd Taipei Tsieineaidd").[3] Traddodiad gan yr arweinwyr yn y mwyafrif o gynadleddau yw gwisgo gwisg genedlaethol y wlad sy'n cynnal y cyfarfod y flwyddyn honno.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Member Economies - Asia-Pacific Economic Cooperation Archifwyd 2018-07-09 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ CHAPTER 5, Back to Canberra: Founding APEC
- ↑ Conditions not right for APEC attendance: Ma Archifwyd 2020-11-17 yn y Peiriant Wayback. The China Post (2013-08-27).