Al-Aqsa TV
| Enghraifft o: | gorsaf deledu |
|---|---|
| Iaith | Arabeg |
| Dod i'r brig | 2006 |
| Dod i ben | 2018 |
| Dechrau/Sefydlu | 9 Ionawr 2006 |
| Perchennog | Hamas |
| Pencadlys | Dinas Gaza |
| Gwefan | https://aqsatv.ps/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05b5z0c |
Sianel deledu yn Llain Gaza sy'n perthyn i'r mudiad Hamas yw Al-Aqsa TV. Fe'i enwir ar ôl Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem, un o brif leoedd sanctaidd Islam. Mae'n darlledu mewn Arabeg yn Llain Gaza a thrwy Ewrop ar loeren Eurobird.[1]
Sefydlwyd y sianel yn 2004 yn ninas Gaza. Mae'n darlledu deunydd sydd wedi cael ei alw yn bropaganda gan elynion Hamas. Mae'n gefnogol i Hamas a'i ymgyrch yn erbyn Israel.
Ar 28 Rhagfyr 2008, bomiwyd stiwdios Al-Aqsa gan awyrennau Israelaidd fel rhan o ymosodiad Israel ar Gaza. Dinistriwyd yr adeilad yn llwyr, ond roedd y staff wedi symud digon o offer a deunydd allan yn barod, gan dybio y byddai'r adeilad yn uchel ar restr Israel o dargedau. Parhaodd y sianel i ddarlledu drwy ddefnyddio stiwdios bychain cudd a rhai symudol mewn faniau, gan lwyddo i ddarlledu felly er gwaetha'r bomio.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) "Gaza: Al-Aqsa TV dans la bataille contre Israël" 02.01.2009 Fideo gan Agence France-Presse yn rhoi hanes y sianel ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009.