Brwydr Actium
Paentiad o'r frwydr gan Laureys a Castro, 1672 | |
| Enghraifft o: | brwydr fôr |
|---|---|
| Dyddiad | 2 Medi 31 CC |
| Rhan o | Rhyfel Actium |
| Lleoliad | Môr Ionia |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01ky6 |
Ymladdwyd Brwydr Actium, 2 Medi 31 CC, rhwng llynges Octavianus dan ei gadfridog Marcus Vipsanius Agrippa a llynges Marcus Antonius a Cleopatra, brenhines yr Aifft.
Ymladdwyd y frwydr ger Gwlff Actium, ar arfordir Gwlad Groeg. Ceisiodd Antonius, gyda tua 500 o longau rhyfel, dorri trwy lynges Agrippa i gyrraedd y môr agored. Llwyddodd Antonius a Cleopatra eu hunain i ddianc, ond suddwyd nifer fawr o'u llongau.
Roedd y frwydr yma yn dyngedfennol. Dechreuodd byddin Antonius ei adael wedi clywed am y newyddion am Actium. Lladdodd Antonius a Cleopatra eu hunain y flwyddyn ganlynol, 30 CC. Daeth Octavianus yn rheolwr Rhufain, gan gymeryd y teitl Princeps ("Dinesydd cyntaf") a'r enw "Augustus". Gyda hyn, daeth Gweriniaeth Rhufain i ben, a dechreuodd yr Ymerodraeth Rufeinig.
