Douarnenez
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 14,068 |
| Pennaeth llywodraeth | Philippe Paul, François Cadic |
| Gefeilldref/i | Murmansk |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 24.94 km² |
| Uwch y môr | 61 metr, 0 metr, 86 metr, 44 metr |
| Yn ffinio gyda | Ar Yeuc'h, Kerlaz, Pouldregad, Poullann |
| Cyfesurynnau | 48.0922°N 4.3303°W |
| Cod post | 29100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Douarnenez |
| Pennaeth y Llywodraeth | Philippe Paul, François Cadic |
![]() | |
Mae Douarnenez (Ffrangeg: Douarnenez) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Le Juch, Kerlaz, Pouldregad, Poullan-sur-Mer ac mae ganddi boblogaeth o tua 14,068 (1 Ionawr 2023).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Porthladd yw Douarnenez. Saif ar Fae Douarnenez, 25 km (15 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Kemper.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Diwydiant
[golygu | golygu cod]Pysgota yw'r prif ddiwydiant, ac mae ffatrioedd i roi pysgod mewn caniau yma, ond erbyn hyn mae twristiaeth wedi dod yn bwysig hefyd.
Chwedloniaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl y chwedl, safai dinas Kêr-Ys yn yr hyn sy'n awr yn Fae Douarnenez, chwedl debyg i chwedl Cantre'r Gwaelod. Enwyd yr ynys yn y bae yn wreiddiol yn Ynys Sant Tutuarn, ond yn ddiweddarach cafodd ei henwi ar ôl Trystan o chwedl Trystan ac Esyllt. Adeiladwyd priordy ar yr ynys yn gynnar yn y 12g.
Iaith Llydaweg
[golygu | golygu cod]Ymunodd Douarnenez a chynllun ieithyddol Ya d'ar Brezhoneg ar 22 Rhagfyr, 2004. Yn 2008 bu 7.97% o blant ysgol gynradd yn mynychu ysgolion dwyieithog[1]
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Douarnenez wedi'i gefeillio â:
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Canodd Meic Stevens y gitarydd o Solfa gân am y dref.
Ers diwedd y 20g, bu-bu adfywiad yn y diwylliant Llydewig. Mae gan y gymuned Bagad llwyddiannus. Mae Gŵyl Ffilm Douarnenez wedi ei ysbrydoli gan y diwygiad Llydewig, ac yn arbenigo mewn ffilm ieithoedd llai.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Ffrangeg) Ofis ar Brezhoneg: Enseignement bilingue Archifwyd 2017-02-01 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Администрация города Мурманска - официальный сайт :: Структурные подразделения". Cyrchwyd 26 Mai 2016.
