Kirklees
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
| Prifddinas | Huddersfield |
| Poblogaeth | 438,727 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Besançon, Bergkamen |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 408.5516 km² |
| Cyfesurynnau | 53.593°N 1.801°W |
| Cod SYG | E08000034 |
| GB-KIR | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Kirklees Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Kirklees.
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 409 km², gyda 439,787 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Calderdale a Dinas Bradford i'r gogledd-orllewin, Dinas Leeds i'r gogledd-ddwyrain, Dinas Wakefield i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de-ddwyrain, Swydd Derby i'r de, a Manceinion Fwyaf i'r gorllewin.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huddersfield, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Batley, Cleckheaton, Dewsbury, Heckmondwike, Holmfirth, Meltham a Mirfield.
Enwir y fwrdeistref ar ôl Priordy Kirklees, sydd yng nghanol yr ardal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 1 Awst 2020
