Orangwtang
Gwedd
| Orangwtang | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Primates |
| Teulu: | Hominidae |
| Is-deulu: | Ponginae |
| Genws: | Pongo Lacépède, 1799 |
| Rhywogaethau | |
Epa hirfraich mawr prendrig yn bennaf unig gyda chlustiau bach, croen brown, blew hir browngoch, dwylo a thraed crwca a wyneb di-flew, sy'n byw yng ne-ddwyrain Asia yw orangwtang (neu orang-wtang) (genws Pongo). Mae dwy rywogaeth, orangwtang Sumatra (Pongo abelii) ac orangwtang Borneo (Pongo pygmaeus). Maent yn byw mewn coed gan mwyaf, ac fe'i ceir mewn coedwigoedd glaw trofannol yn Indonesia a Maleisia, ar ynysoedd Sumatera a Borneo. Ystyrir bod y ddwy rywogaeth mewn perygl.
