Reconquista
| Enghraifft o: | rhyfel crefyddol, cyfeddiannaeth |
|---|---|
| Math | Y Croesgadau |
| Rhan o | hanes Penrhyn Iberia |
| Dechreuwyd | 733 |
| Daeth i ben | 2 Ionawr 1492 |
| Lleoliad | Penrhyn Iberia, Maghreb |
| Yn cynnwys | Gwarchae Toledo, Gwarchae Madrir, Gwarchae Lisbon |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06m52 |
Y Reconquista (Sbaeneg a Phortiwgaleg am "Ail-goncwest") yw'r enw a roddir ar y cyfnod o 750 mlynedd pan ad-enillodd y Cristionogion y rhannau o Benrhyn Iberia oedd wedi dod dan lywodraeth Islamaidd fel rhan o Al-Ándalus (Arabeg الأندلس, al-andalus).
Cipiwyd Hispania oddi wrth y Fisigothiaid gan yr Umayyad yn gynnar yn yr 8g. Dechreuodd y Reconquista bron yn syth gyda Brwydr Covadonga yn 722, ond dim ond yn araf yr enillwyd tir gan y Cristionogion yn y cyfnod cynnar. Y ffigwr enwocaf yn y brwydrau hyn oedd El Cid (Rodrigo Díaz) yn yr 11g. Cyflymodd y broses yn y 13g ar ôl uno teyrnasoedd Castilla a León dan y brenin Fernando III. Erbyn canol y 13g dim ond Teyrnas Granada oedd yn parhau yn eiddo'r Mwslimiaid.
Daeth y Reconquista i ben ar 2 Ionawr 1492, pan ildiodd Granada i'r Cristionogion.[1] Alltudiwyd y brenin olaf, Abu 'abd Allah Muhammad XII.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hillgarth, J. N. (1978). The Spanish Kingdoms: 1250–1516. Volume II: 1410–1516, Castilian Hegemony (yn Saesneg). Rhydychen: Gwasg Clarendon. tt. 367–393.