Y byd Arabaidd
Diffiniad eang o'r byd Arabaidd, gan gynnwys y 22 o aelod-wladwriaethau'r Gynghrair Arabaidd (mewn gwyrdd). | |
| Math | transcontinental region, ardal ddiwylliannol, grŵp daearwleidyddol, language area, geographic term |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Bahrain, Coweit, Irac, Sawdi Arabia, Iemen, Oman, Catar, Libanus, Syria, Gwladwriaeth Palesteina, Gwlad Iorddonen, Yr Aifft, Libia, Tiwnisia, Algeria, Moroco, Eritrea, Swdan, Somalia |
| Cyfesurynnau | 10.5°N 15.5°E |
![]() | |
Rhanbarth diwylliannol eang sy'n ymestyn ar draws Gorllewin Asia a Gogledd Affrica yw'r byd Arabaidd (Arabic: اَلْعَالَمُ الْعَرَبِيُّ al-ʿālam al-ʿarabī), yn ffurfiol mamwlad yr Arabiaid (اَلْوَطَنُ الْعَرَبِيُّ al-waṭan al-ʿarabī),[1][2][3] a elwir hefyd cenedl yr Arabiaid (اَلْأُمَّةُ الْعَرَبِيَّةُ al-ummah al-ʿarabiyyah), y byd Arabeg, neu'r gwladwriaethau Arabaidd.[4] Arabiaid ydy'r mwyafrif o bobl yn y byd Arabaidd,[5][6] ond mae'r rhanbarth hefyd yn cynnwys grwpiau ethnig eraill megis Berberiaid, Cyrdiaid, Somaliaid, a Nwbiaid.[7] Iaith gyffredin y byd Arabaidd ydy'r Arabeg.[8][9][10][11][12][13]
Mae diffiniadau o'r byd Arabaidd yn cynnwys o leiaf y 19 o wladwriaethau a chanddynt Arabiaid yn fwyafrif cymharol o'r boblogaeth:[14][15] Mawritania, Moroco, Algeria, Tiwnisia, Libia, Swdan, a'r Aifft yng Ngogledd Affrica; Palesteina, Iorddonen, Libanus, Syria, ac Irac yn y Lefant; a Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Catar, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, ac Iemen yn Arabia. Mae'r Gynghrair Arabaidd—sefydliad rhyngwladol gyda'i bencadlys yng Nghairo—yn cynnwys y 19 gwlad hon yn ogystal â'r Comoros (gwlad Bantu ei hiaith, a'i phoblogaeth yn disgyn o Arabiaid, pobloedd Bantu, a Malagasiaid) a Jibwti a Somalia (gwledydd Somalieg, gyda'r mwyafrif yn Somaliaid ethnig ond gyda lleiafrifoedd o Arabiaid). Er nad yw'r Arabeg yn iaith y mwyafrif yn y tair gwlad hon, mae o bwys grefyddol fel iaith Islam.
Yn ôl Banc y Byd, roedd gan y byd Arabaidd gyfanswm poblogaeth o 456 miliwn o drigolion a chynnyrch domestig gros o $2.85 triliwn yn 2021.[16] Mae'r rhanbarth yn amrywiaethol o ran ei economi, ac yn cynnwys rhai o'r poblogaethau cyfoethocaf a thlotaf yn y byd.[15]
Yn y cyfnodau hanesyddol wedi'r Henfyd, bu'r byd Arabaidd yn gyfystyr ag ymerodraethau a chaliffiaethau'r Arabiaid,[17] ac felly'n cynnwys Al-Andalus yn ne Sbaen. Tyfodd cenedlaetholdeb Arabaidd yn ystod ail hanner y 19g, ar y cyd â mudiadau cenedlaetholgar eraill yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ffurfiwyd y Gynghrair Arabaidd ym 1945 i gynrychioli diddordebau'r Arabiaid ac i hyrwyddo undeb gwleidyddol y gweledydd Arabaidd, mudiad a elwir pan-Arabiaeth.[18][19]
Mae'r byd Arabaidd yn ymestyn o Gefnfor yr Iwerydd yn y gorllewin i Fôr Arabia yn y dwyrain, ac o'r Môr Canoldir yn y gogledd i Gefnfor India yn y de-ddwyrain.[20] Gelwir rhanbarth y dwyrain yn y Mashriq, a rhanbarth y gorllewin yn y Maghreb. Mae nifer o wledydd y byd Arabaidd hefyd yn rhan o'r Dwyrain Canol, rhanbarth daearwleidyddol sydd hefyd yn cynnwys Iran, Twrci, ac Israel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Khan, Zafarul-Islam. "The Arab World – an Arab perspective". milligazette.com (yn Saesneg).
- ↑ Phillips, Christopher (2012). Everyday Arab Identity: The Daily Reproduction of the Arab World (yn Saesneg). Routledge. t. 94. ISBN 978-1-136-21960-3.
- ↑ Mellor, Noha; Rinnawi, Khalil; Dajani, Nabil; Ayish, Muhammad I. (2013). Arab Media: Globalization and Emerging Media Industries (yn Saesneg). John Wiley & Sons. ISBN 978-0745637365.
- ↑ "Majority and Minorities in the Arab World: The Lack of a Unifying Narrative". Jerusalem Center For Public Affairs.
- ↑ Hitti, Philip K. (1996). The Arabs : a short history. Philip K. Hitti. Washington, D.C.: Regnery Publishing. ISBN 0-89526-706-3. OCLC 34753527.
- ↑ Rogan, Eugene L. (2011). The Arabs: A History (arg. First paperback). New York, NY: Basic Books. ISBN 978-0-465-02504-6. OCLC 728657250.
- ↑ "Middle East – People and Society". World101 from the Council on Foreign Relations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-01.
- ↑ "Jordan and Syria". Ethnologue. Cyrchwyd 2018-07-21.
- ↑ Jastrow, Otto O. (2006), "Iraq", in Versteegh, Kees; Eid, Mushira; Elgibali, Alaa et al., Encyclopedia of Arabic Language and Linguistics, 2, Brill Publishers, p. 414, ISBN 978-90-04-14474-3
- ↑ Arabic, Najdi Spoken. Ethnologue
- ↑ Arabic, Hijazi Spoken. Ethnologue
- ↑ Arabic, Gulf Spoken. Ethnologue
- ↑ Simeone-Sinelle, Marie-Claude (2005). "Arabic Lingua Franca in the Horn of Africa". Encyclopedia of Arabic Language and Linguistics. 2 – via Academia.edu.
- ↑ "Why the Arab world has an identity crisis". The Economist. ISSN 0013-0613. Cyrchwyd 2022-11-20.
- 1 2 Tamari, Steve (2008). Who are the Arabs? (yn English). Washington, D.C., United States: Georgetown University-Center for Contemporary Arab Studies. t. 1.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Arab World | Data". World Bank. Cyrchwyd 6 Mai 2022.
- ↑ "The Arab League". Council on Foreign Relatipons (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-02.
- ↑ "Arab League Sends Delegation to Iraq". Encyclopedia.com. 8 Hydref 2005. Cyrchwyd 13 Chwefror 2011.
- ↑ "Arab League Warns of Civil War in Iraq". Encyclopedia.com. 8 Hydref 2005. Cyrchwyd 13 Chwefror 2011.
- ↑ {Cite book | last = Frishkopf | first = Michael| contribution = Introduction: Music and media in the Arab world and Music and media in the Arab world as music and media in the Arab world: A metadiscourse | title = Music and media in the Arab world | editor-last = Frishkopf | editor-first = Michael | publisher = The American University in Cairo Press | year = 2010 | location = Cairo | url = https://books.google.com/books?id=KANOAYzkhA8C%7C isbn = 978-977-416-293-0}}
