Basilicata
Gwedd
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Prifddinas | Potenza |
| Poblogaeth | 547,579 |
| Pennaeth llywodraeth | Vito Bardi |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Buenos Aires |
| Nawddsant | Gerard Majella |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 9,994.61 ±0.01 km² |
| Uwch y môr | 633 metr |
| Gerllaw | Môr Ionia |
| Yn ffinio gyda | Campania, Puglia, Calabria |
| Cyfesurynnau | 40.5°N 16.5°E |
| IT-77 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Basilicata |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Basilicata |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Basilicata |
| Pennaeth y Llywodraeth | Vito Bardi |
![]() | |
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Basilicata. Potenza yw'r brifddinas.
Mae Basilicata yn ffinio ar ranbarthau Campania yn y gorllewin, Calabria yn y de-orllewin ac Apulia (Puglia) yn y dwyrain. Yn y de-ddwyrain mae Bae Taranto yn ffin.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys Monte Pollino, copa uchaf rhan ddeheuol mynyddoedd yr Apenninau, 2,233 medr o uchder. Yn hanesyddol, roedd yn un o ranbarthau tlotaf yr Eidal, gyda llawer o allfudo, ond mae'r economi wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid yr ardal yn Lucania.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 578,036.[1]

Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-03-05 yn y Peiriant Wayback
| |||||||
