Berdiansk
Gwedd
| Math | dinas fawr, dinas yn Wcráin |
|---|---|
| Poblogaeth | 106,311 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Valery Baranov |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Zaporizhzhia Oblast, Berdyansky Uyezd, Berdiansk Okruha, Berdiansk Raion |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 80 km² |
| Uwch y môr | 10 ±1 metr |
| Gerllaw | Môr Azov |
| Cyfesurynnau | 46.7556°N 36.7889°E |
| Cod post | 71100–71127 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Berdiansk |
| Pennaeth y Llywodraeth | Valery Baranov |
![]() | |
Dinas borthladd yn Oblast Zaporizhzhia yn ne-ddwyrain Wcráin yw Berdiansk (Wcreineg: Бердя́нськ) neu Berdyansk (Rwseg: Бердя́нск). Saif ar arfordir gogleddol Môr Azov, sydd yn estyniad gogleddol i'r Môr Du. Hi yw canolfan weinyddol Rhanbarth Berdiansk, er nad yw'n perthyn i'r rhanbarth honno. Enwyd y ddinas ar ôl afon Berda wrth ffurfio'r tafod tywod Berdianska y lleolir hi wrth ei droed.[1] Mae Berdiansk yn gartref i sw saffari, parc dŵr, amgueddfeydd, sbâugyda baddonau mwd a thriniaethau hinsoddol a nifer o weithgareddau chwaraeon dŵr. Mae ganddi boblogaeth o 107,928.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Mae Berdiansk wedi'i gefeillio neu'n chwaer-ddinas â: [2]
Beibei (Chongqing), Tsieina
Bielsko-Biała, Gwlad Pwyl
Glyfada, Gwlad Groeg
Haisyn, Wcráin
Horodenka, Wcráin
Khmilnyk, Wcráin
Kremenchuk, Wcráin
Lowell, Unol Daleithiau America
Poti, Georgia
La Seyne-sur-Mer, Ffrainc
Yambol, Bwlgaria
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Berdyansk city, Ukraine travel guide". ukrainetrek.com. Cyrchwyd 2016-12-17.
- ↑ "Партнерські зв'язки". bmr.gov.ua (yn Wcreineg). Berdyansk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-27. Cyrchwyd 2020-04-01.
