close
Neidio i'r cynnwys

Byrfodd

Oddi ar Wicipedia
Byrfodd
Enghraifft o:ffenomen ieithyddol Edit this on Wikidata
Mathsymbol, derivative, tarddiad, uned ieithyddol Edit this on Wikidata
Rhan osystem ysgrifennu Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0mnq edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF7958 edit this on wikidata
QuoraAbbreviations edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae byrfodd yn ffurf byr o air neu ymadrodd. Fel arfer, ond nid bob tro, mae'n cynnwys llythyren, neu lythrennau, o'r gair neu ymadrodd. Mae llawer o fyrfoddau traddodiadol yn yr iaith lenyddol, ond mae llawer o rai newydd yn cael eu creu er mwyn ysgrifennu negeseuon byrrach ar ffonau symudol e.e. ctl sy'n tarddu o "caru ti lot".

Llythrenw

[golygu | golygu cod]
Prif: Llythrenw

Mae llythrenw yn fyrfodd sy'n cael ei greu o lythrennau cyntaf geiriau mewn ymadrodd. Yn y gorffennol, dim ond y llythrenwau oedd yn cael eu defnyddio yn gyffredinol (e.e. er enghraifft neu h.y. hynny yw) ond yn y ganrif gyntaf ar hugain, mae llawer mwy o lythrenw yn cael eu creu trwy gynnydd o ddefnyddio termau technoleg a thrwy dyfu'r defnydd mewn iaith testun ac ati.

Byrfoddau rhifau

[golygu | golygu cod]

I ysgrifennu byrfodd ar gyfer ffurfiau trefnol defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.

ByrfoddTrefnolByrfoddTrefnol
1afcyntaf11egunfed ar ddeg
2ilail12feddeuddegfed
3ydd/3eddtrydydd/trydedd13egtrydydd/trydedd ar ddeg
4ydd/4eddpedwerydd/pedwaredd14egpedwerydd/pedwaredd ar ddeg
5edpumed15fedpymthegfed
6edchweched16egunfed ar bymtheg
7fedseithfed17egail ar bymtheg
8fedwythfed18feddeunawfed
9fednawfed19egpedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
10feddegfed20fedugeinfed
    
37ainail ar bymtheg ar hugain50fedhanner canfed
157ainail ar bymtheg a deugain wedi'r cant160fedtrigeinfed wedi'r cant
1277ainail ar bymtheg a thrigain wedi'r fil a dau gant1280fedpedwar ugeinfed wedi'r fil a dau gant
300fedtri chanfed500fedpum canfed
1,000fedmilfed1,000,000fedmiliynfed

Iaith Testun

[golygu | golygu cod]

Mae llawer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg wedi cael eu byrfoddu i ysgrifennu negeseuon byrion iawn ar ffônau symudol. Mae'r rhan fwyaf o fyrfoddau iaith testun yn anffurfiol trwy fyrhau geiriau, ond mae llawer o lythrenwau cyffredinol mewn defnyddio cyffredinol fel ctl "Caru ti lot" ac yof "Yn ôl yn fuan"

Enwau Sefydliadau

[golygu | golygu cod]

Fel arfer, mae enwau sefydliadau a chwmnïau'n cael eu cyfieithu o'r geiriau llawn, yn achos byrfodd wahanol yn Gymraeg na'r iaith gwreiddiol.

ByrfoddSefydliad
GiGGwasanaeth Iechyd Gwladol
S4CSianel Pedwar Cymru
UEUndeb Ewropeaidd
UDAUnol Daleithiau America

Er gwaethaf y ffaith bod ganddynt enwau Cymraeg, dynodir enwau rhai sefydliadau ym myrfoddau eu henwau mewn ieithoedd eraill, e.e. Saesneg.

SefydliadByrfodd tybiannolByrfodd go iawnSefydliad (yn iaith arall)Nodyn
Asiantaeth Gwybodaeth GanologAGGCIACentral Intelligence Agency
Corfforaeth Ddarlledu BrydeinigCDBBBCBritish Broadcasting Corporationfel arfer yn dweud "bi bi si" nid "bi bi ec"
Undeb Rygbi CymruURCWRUWelsh Rugby Union

Teitl personol

[golygu | golygu cod]
ByrfoddTeitlLluosog
ACAelod CynulliadACau
ASAelod SeneddolASau
DrDoctor-