Fitamin
| Enghraifft o: | grŵp o endidau moleciwlaidd, nutrient group |
|---|---|
| Math | cyfansoddyn organig, micronutrient, maethyn |
| Y gwrthwyneb | antivitamin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07zry |
| Thesawrws y BNCF | 14065 |
| CAS | 308080-82-2 |
| ChEBI | 33229 |
| Quora | Vitamins |
Cyfansoddyn organig yw fitamin, sydd yn angenrheidiol ar lawer o organebau byw. Fel arfer mae'r organeb yn derbyn y fitamin drwy ei ddiet ond mae rhai eithriadau megis fitamin D sy'n dod o belydrau is-goch yr haul ac yn cael ei greu yn y croen.
Dosberthir fitaminau yn ôl yr hyn maen nhw'n ei wneud (eu gweithgaredd cemegol a biolegol yn hytrach na sut maen nhw wedi cael eu creu (hy eu gwneuthuriad strwythurol).
Mae dau fath o fitaminau: y rhai sy'n hydoddi mewn dŵr a'r rhai hynny sy'n hydoddi mewn olew.
Ei bwrpas
[golygu | golygu cod]Mae llawer o effeithiau biocemegol i fitaminau yn y corff, a gallent gael effaith ar: hormonau (e.e. fitamin D), gwrthocsidant (e.e. fitamin E) a rheolwyr celloedd a datblygiad meinwe'r corff. Mae teulu fitaminau B yn rhagflaenu ensymau a chydensymau ('coenzymes') sy'n gweithio fel catalyddion y metaboledd. Yr adeg hon, maent yn clymu eu hunain yn sownd i'r ensymau a chânt eu galw yn gwrpiau prosthetig e.e. biotin, sy'n cynorthwyo ensymau i greu 'fatty acids' .
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia); erbyn hyn fe wyddom mai diffyg fitamin A yw'r rheswm. Roedd fforwyr a morwyr y 17g hefyd yn deall pwysigrwydd ffrwythau ffres i gadw'r clefri poeth (neu 'sgyrfi') i ffwrdd; diffyg fitamin C oedd y tu ôl i'r cwbwl.
| Blwyddyn ei darganfod |
Fitamin | Tarddiad |
|---|---|---|
| 1909 | Fitamin A (retinol) | olew penfras |
| 1912 | Fitamin B1 (thiamin) | reis |
| 1912 | Fitamin C (asid ascorbig) | lemonau |
| 1918 | Fitamin D (calciferol) | olew penfras |
| 1920 | Fitamin B2 (ribofflafin) | wyau ieir |
| 1922 | Fitamin E (tocofferol) | gwenith, cosmetic and iau |
| 1926 | Fitamin B12 (cobalamin) | iau |
| 1929 | Fitamin K | alfalfa |
| 1931 | Fitamin B5 (asid pantothenig) | iau |
| 1931 | Fitamin B7 (biotin) | iau |
| 1934 | Fitamin B6 (pyridocsin) | reis |
| 1936 | Fitamin B3 (niacin) | iau |
| 1941 | Fitamin B9 (asid ffolig) | iau |
