Robert Redford
Gwedd
| Robert Redford | |
|---|---|
| Ganwyd | Charles Robert Redford 18 Awst 1936 Santa Monica |
| Bu farw | 16 Medi 2025 Provo |
| Man preswyl | Provo, Mijas |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, cynhyrchydd gweithredol, actor teledu, actor llais, actor, cyfarwyddwr |
| Cyflogwr | |
| Taldra | 177 centimetr |
| Tad | Charles Robert Redford |
| Mam | Martha W. Hart |
| Priod | Lola Van Wagenen, Sibylle Szaggars |
| Partner | Sibylle Szaggars, Sônia Braga |
| Plant | Amy Redford, James Redford |
| Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center, Audubon Medal, Officier des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, The Dorothy and Lillian Gish Prize, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Y César Anrhydeddus |
| llofnod | |
Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, model, amgylcheddwr, a dyngarwr o'r Unol Daleithiau oedd Charles Robert Redford Jr. (18 Awst 1936 – 16 Medi 2025), a elwir gan amlaf yn Robert Redford. Ymysg ei ffilmiau enwocaf fel actor yw Butch Cassidy and the Sundance Kid, Jeremiah Johnson, The Sting, ac All the President's Men.
Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1980 am ei ffilm Ordinary People a Gwobr Anrhydeddus yr Academi am Lwyddiant Oes yn 2002.
Ym 1978 cyd-sefydlodd Gŵyl Ffilm Utah/UDA, a gafodd ei hail-enwi'n Ŵyl Ffilm Sundance ym 1991 ar ôl cymeriad Redford yn Butch Cassidy and the Sundance Kid. Mae bellach yn ŵyl ffilm annibynnol fwyaf yr Unol Daleithiau.
Bu farw yn 89 mlwydd oed, yn ei gartref yn Provo, Utah.[1]
- ↑ "Hollywood star Robert Redford dies at the age of 89". BBC News (yn Saesneg). 2025-09-16. Cyrchwyd 2025-09-16.