Shingon
| Enghraifft o: | ysgol Bwdhaeth |
|---|---|
| Math | Heian Buddhism |
| Dechrau/Sefydlu | 823 |
| Sylfaenydd | Kūkai |
| Pencadlys | Shingon sect eighteen Motoyama |
| Enw brodorol | 真言宗 |
| Gwladwriaeth | Japan |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01qpg4 |

Enwad Japaneaidd sy'n cyfuno Bwdhaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Japan, ynghyd â phwyslais pantheistiaidd, yw Shingon (眞言, 真言, "Y Gair/Geiriau Cywir"). Gyda Bwdhaeth Tibet, mae'n ffurfio un o ddwy gangen fawr Bwdhaeth Vajrayana.
Cafodd ei sefydlu yn 816 gan yr athronydd a llenor Kūkai (774 - 835). Roedd Kūkai yn un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tsieineeg lenyddol o safon uchel, ffrwyth ei daith i Tsieina rhwng 804 ac 806. Ar ôl dychwelyd i Japan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) yn 816. Heddiw mae Kōyasan yn ganolfan grefyddol fawr sy'n denu pererinion ac ymwelwyr o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i brofi'r lletygarwch arbennig a geir yn y mynachlogydd Shingon niferus a geir yno.
Canghennau Shingon
[golygu | golygu cod]
- Kōyasan (高野山)
- Chisan-ha (智山派)
- Buzan-ha (豊山派)
- Daikakuji-ha (大覚寺派)
- Daigo-ha (醍醐派)
- Shingi
- Zentsuji-ha
- Omuro-ha
- Yamashina-ha
- Sennyūji-ha
- Sumadera-ha
- Kokubunji-ha
- Sanbōshū
- Nakayadera-ha
- Shigisan
- Inunaki-ha
- Tōji