Smwythyn
| Math | diod |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/058hry |

Diod ddi-alcohol yw smwythyn, (calque o'r Saesneg; esmwyth + bychannig yn) neu'n fwy cyffredin ar lafar, smŵddi sy'n sillafiad yn yr orgraff Gymraeg o'r gair Saesneg wreiddiol. Mae'n gymysgedd o ffrwythau a sudd fel arfer. Mae weithiau'n defnyddio cynhwysion eraill hefyd, megis siocled, menyn cnau mwnci neu hyd yn oed de gwyrdd. Mae llawer o bobl yn defnyddio iâ neu ffrwythau wedi'u rhewi wrth wneud smwythyn er mwyn gwneud diod oer iawn sydd bron yn ddiod iâ.
Mae'r smwythyn yn debyg i ysgytlaeth yn y ffaith bod y ddwy ddiod yn fwy trwchus na sudd ffrwythau, ond yn wahanol i ysgytlaeth does dim cynnyrch llaeth mewn smwythyn fel arfer ac nid yw'n cynnwys hufen iâ.
Teg dweud bod y gair smŵddi, yn hytrach na smwythyn gyda'r sillafiad Gymraeg o'r gair Saesneg wedi ennill ei blwy' gyda'r cyhoedd ac awdurdodau.[1]
Oriel
[golygu | golygu cod]- Dewislen Smŵddis yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026
- Smwythyn
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gweithio ar stondin smŵddi". BBC Bite Size. 2018.