close
Neidio i'r cynnwys

Tesla Model Y

Oddi ar Wicipedia
Tesla Model Y
Enghraifft o:model y cerbyd Edit this on Wikidata
Mathcrossover, Car trydan Edit this on Wikidata
Màs2,003 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Rhagflaenwyd ganTesla Model 3 Edit this on Wikidata
GwneuthurwrTesla Edit this on Wikidata
Hyd4,750 milimetr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tesla.com/modely Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Model Y Tesla yn SUV trydan maint canolig batri a adeiladwyd gan Tesla, Inc. ers 2020.

Mae'r Model Y yn seiliedig ar lwyfan sedan y Model 3,[1] ac mae 75 y cant o'i rannau'n gyffredin a llwyfan Model 3 Tesla,[2] gan gynnwys dyluniad mewnol ac allanol tebyg a'i seilwaith trydan. Mae'r Model Y yn llai costus na Model X Tesla canolig. [3] Fel y Model X, mae'r Model Y yn cynnig trydedd rhes o seddi, fel opsiwn.[4]

Dadorchuddiwyd y car ym Mawrth 2019 a dechreuodd y gwaith o'i gynhyrchu yn Ffatri Tesla yn Fremont yn mis Ionawr 2020,[5][6] gan ei ddosbarthu ar 13 Mawrth 2020.[7]

Yn chwarter cyntaf ac ail 2023, gwerthodd y Model Y yn well na'r Toyota Corolla, gan ddod y car sy'n gwerthu orau yn y byd, y cerbyd trydan cyntaf erioed i hawlio'r teitl hwnnw.[8][9]

Model Tesla 3 (chwith) a Tesla Model Y (dde) ochr yn ochr
Golygfa o'r cefn

Manylion technegol

[golygu | golygu cod]

Pwmp gwres

[golygu | golygu cod]

Model Y yw cerbyd cyntaf Tesla i ddefnyddio pwmp gwres ar gyfer gwresogi caban mewnol y car.[10][11] [12] [13] Gall y pwmp gwres fod hyd at 300% yn fwy effeithlon na'r gwresogi gwrthiant trydan a arferid ei ddefnyddio.[14]

Roedd rhai cerbydau trydan gan weithgynhyrchwyr eraill, gan gynnwys y Nissan Leaf, Renault Zoe, BMW i3, Jaguar I-Pace, Audi e-tron, a Kia Niro, eisoes wedi defnyddio pympiau gwres yn eu ceir trydan.[15] Mae pympiau gwres Tesla, fodd bynnag, wedi cael eu canmol yn arw am ddefnyddio llawer llai o rannau.[16]

Nid oedd gan grbydau a gynhyrchwyd ers mis Mai 2021 radar ar gyfer adaptive cruise control.[17] Yn Chwefror 2022, agorodd y Weinyddiaeth Diogelwch Traffig Priffyrdd Cenedlaethol (National Highway Traffic Safety Administration yr UD) ymchwiliad i frecio diangen yn y cerbydau newydd hyn.+[18]

Fe wnaeth diwedddariad meddalwedd 20 Medi 2022 drawsnewid y ceir oedd a radar i Tesla Vision. Mae'r cymorth llywio wedi'i gyfyngu i 85 mya (137 km/awr), i lawr o 90 mya (140 km/awr) ac mae'r lleiafswm y pellter rhwng dau gar wedi'i newid i ddau hyd car (i lawr o un hyd car).

Derbyniad

[golygu | golygu cod]

Mae Model Y wedi cael derbyniad da iawn ar y cyfan gyda'r beirniaid yn canmol ymddangosiad y car, ei gyflymiad cyflym, y tu mewn ac ystod eang eraill o bethau. Fodd bynnag, fe feirniadwyd y modd yr oedd y cerbyd yn cael ei lywio a'i reid anesmwyth.[19] Yn ôl Top Gear, mae'r Model Y yn "gar gwych i fyw gydag ef".[20] Cyfeiriwyd at y Model Y hefyd fel yr arweinydd yn ei ddosbarth,[21] ond mae adolygwyr yn nodi bod cystadleuaeth yn cynyddu gyda nifer o ddewisiadau amgen yn dod i'r farchnad gan weithgynhyrchwyr eraill.[22]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Yn 2023, enillodd Model Y Tesla 'Wobr Gwerth Gweddilliol Grŵp Autovista' yn y categori 'Compact and Large Battery-Electric Vehicle (BEV) SUV'.[23] Enillodd Model Y hefyd wobr 'y Car Cwmni Gorau' yng Ngwobrau Ceir Gorau Carbuyer 2024. [24]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jaynes, Nick (29 Ionawr 2016). "Tesla is working on multiple variations of the Model 3". Mashable. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2019. Cyrchwyd 15 Mawrth 2019.
  2. Lambert, Fred (8 Ebrill 2020). "Tesla Model Y teardown: shows some great improvements over Model 3 despite sharing 75% of parts". Electrek (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Hydref 2020.
  3. Lambert, Fred (2 Awst 2017). "Tesla Model Y is coming to market sooner using Model 3 architecture, says Elon Musk". electrek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2019. Cyrchwyd 15 Mawrth 2019.
  4. Lambert, Fred (2 Rhagfyr 2019). "Tesla Model Y: rare glimpse at third-row seats". Electrek (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2020.
  5. Baldwin, Roberto (29 Ionawr 2020). "Tesla Beats Expectations, Declares a Profit, and Has Started Model Y Production". Car and Driver (yn Saesneg). Hearst. Cyrchwyd 27 Chwefror 2020.
  6. Lambert, Fred (15 Mawrth 2019). "Tesla unveils Model Y electric SUV with 300 miles range and 7-seats". Electrek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2019. Cyrchwyd 15 Mawrth 2019.
  7. Dow, Jameson (13 Mawrth 2020). "Tesla Model Y specs: we finally know how big it is". electrek.co. Cyrchwyd 14 Mawrth 2020.
  8. Munoz, Juan Felipe (2023-05-25). "Tesla Model Y Was The World's Best-Selling Car In Q1 2023". Motor1. Cyrchwyd 2023-05-26.
  9. Nichols, Dave (Awst 2023). "The Tesla Model Y Is The Best-Selling Car In The World". Green Cars. US. Cyrchwyd 2023-11-11.
  10. Lambert, Fred (24 Mawrth 2020). "Elon Musk: Tesla Model Y heat pump is some of the best engineering I've seen in a while". Electrek. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  11. Erwin, Blane (26 Mawrth 2020). "Model Y is the first Tesla with a heat pump. Here's why that's a big deal". Current Automotive. Cyrchwyd 6 Ebrill 2020.
  12. Schmidt, Bridie (18 Mawrth 2020). "Model Y has heat pump to solve issue of range in cold weather". The Driven. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  13. "Tesla and other electric car batteries lose 40% of their range in extremely cold weather: AAA". MarketWatch. 7 Chwefror 2019. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  14. Claribelle Deveza, Ma. (23 Mawrth 2020). "Tesla Model Y Heat Pump: Deep Dive and Closer Look". Tesmanian. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  15. Halvorson, Bengt (8 Awst 2019). "Can heat pumps solve cold-weather range loss for EVs?". Green Car Reports. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  16. "Tesla Octovalve analysis". E-Mobility Engineering (yn Saesneg). 2021-08-08. Cyrchwyd 2023-10-02.
  17. Blanco, Sebastian (28 Chwefror 2022). "Tesla Stops Putting Radar Sensors in New Model S and Model X EVs". Cyrchwyd July 3, 2022.
  18. "Tesla investigated over 'phantom braking' problem". BBC. 18 Chwefror 2022.
  19. Dorian, Drew (December 20, 2022). "2023 Tesla Model Y". Car and Driver. US. Cyrchwyd 2023-01-28.
  20. "Tesla Model Y review 2023". Top Gear. UK. 30 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 2023-01-28.
  21. Yekikian, Nick. "2023 Tesla Model Y". Edmunds. US. Cyrchwyd 2023-01-28.
  22. "Top Gear's big electric crossover test: Tesla Model Y vs rivals". Top Gear. UK. 15 Ebrill 2022. Cyrchwyd 2023-01-28.
  23. "Tesla Model Y wins the Compact and Large BEV SUV Autovista Group Residual Value Award 2023". Autovistagroup. Cyrchwyd 23 Hydref 2023.
  24. "Carbuyer Best Car Awards 2024 - the winners". Carbuyer. Cyrchwyd 23 Hydref 2023.