close
Neidio i'r cynnwys

Universiade

Oddi ar Wicipedia
Universiade
Enghraifft o:digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathdigwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth ryngwladol, youth sports competition Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1959 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSummer Universiade, Winter Universiade Edit this on Wikidata
Enw brodorolUniversiade Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fisu.net/sport-events Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04xx1m edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner FISU

Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]

Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]

Gemau'r Haf

[golygu | golygu cod]
Gemau Universiade yr Haf
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith
BlwyddynRhifLleoliad
1959ITorinoBaner Yr Eidal Yr Eidal
1961IISofia Bwlgaria
1963IIIPorto AlegreBaner Brasil Brasil
1965IVBwdapestBaner Hwngari Hwngari
1967VTokyoBaner Japan Japan
1970VITorinoBaner Yr Eidal Yr Eidal
1973VIIMoscfaBaner Undeb Sofietaidd Undeb Sofietaidd
1975VIIIRhufainBaner Yr Eidal Yr Eidal
1977IXSofia Bwlgaria
1979XDinas MecsicoBaner Mecsico Mecsico
1981XIBwcaréstBaner Rwmania Rwmania
1983XIIEdmontonBaner Canada Canada
1985XIIIKobeBaner Japan Japan
1987XIVZagrebBaner Iwgoslafia Iwgoslafia
1989XVDuisburgBaner Yr Almaen Yr Almaen
1991XVISheffield Y Deyrnas Unedig
1993XVIIBuffaloBaner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
1995XVIIIFukuokaBaner Japan Japan
1997XIXSisiliBaner Yr Eidal Yr Eidal
1999XXPalma de MallorcaBaner Sbaen Sbaen
2001XXIBeijingBaner Tsieina Tsieina
2003XXIITaeguBaner De Corea De Corea
2005XXIIIİzmirBaner Twrci Twrci
2007XXIVBangkokBaner Gwlad Tai Gwlad Tai
2009XXVBeogradBaner Serbia Serbia
2011XXVIShenzhenBaner Tsieina Tsieina
2013XXVIIKazanBaner Rwsia Rwsia
2015XXVIIIGwangjuBaner De Corea De Corea
2017XXIXTaipeiBaner Taipei Tsieineaidd Taipei Tsieineaidd
2019XXXNapoliBaner Yr Eidal Yr Eidal
2021XXXIBwcaréstBaner Rwmania Rwmania

Cynhelir gemau Universiade yr haf dros 12 niwrnod. Mae 11 o chwaraeon gorfodol (14 o ddisgyblaethau), a hyd at 3 o chwaraeon a ddewisir gan y wlad sy'n cynnal y gemau. Y 14 mabolgamp orfodol yw athletau, cleddyfa, gymnasteg gelfydd, gymnasteg rythmig, jiwdo, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, pêl-foli, plymio, polo dŵr, taekwondo, tenis, a thenis bwrdd. Mae disgwyl ychwanegu saethyddiaeth at restr y chwaraeon gorfodol yn 2019, a badminton yn 2021.[1]

Gemau'r Gaeaf

[golygu | golygu cod]
Gemau Universiade y Gaeaf
Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau:
     Unwaith      Dwywaith      Tair gwaith      Pedair gwaith      Pum gwaith      Chwe gwaith
BlwyddynRhifLleoliad
1960IChamonixBaner Ffrainc Ffrainc
1962IIVillars-sur-OllonBaner Y Swistir Y Swistir
1964IIIŠpindlerův MlýnBaner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1966IVSestriereBaner Yr Eidal Yr Eidal
1968VInnsbruckBaner Awstria Awstria
1970VIRovaniemiBaner Y Ffindir Y Ffindir
1972VIILake PlacidBaner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
1975VIIILivignoBaner Yr Eidal Yr Eidal
1978IXŠpindlerův MlýnBaner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1981XJacaBaner Sbaen Sbaen
1983XISofia Bwlgaria
1985XIIBellunoBaner Yr Eidal Yr Eidal
1987XIIIŠtrbské PlesoBaner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia
1989XIVSofia Bwlgaria
1991XVSapporoBaner Japan Japan
1993XVIZakopaneBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
1995XVIIJacaBaner Sbaen Sbaen
1997XVIIIMujuBaner De Corea De Corea
1999XIXPoprad-Tatry Slofacia
2001XXZakopaneBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
2003XXITarvisioBaner Yr Eidal Yr Eidal
2005XXIIInnsbruckBaner Awstria Awstria
2007XXIIITorinoBaner Yr Eidal Yr Eidal
2009XXIVHarbinBaner Tsieina Tsieina
2011XXVErzurumBaner Twrci Twrci
2013XXVITrentinoBaner Yr Eidal Yr Eidal
2015XXVIIGranadaBaner Sbaen Sbaen
Štrbské Pleso/Osrblie Slofacia
2017XXVIIIAlmatyBaner Casachstan Casachstan
2019XXIXKrasnoyarskBaner Rwsia Rwsia
2021XXXLucerneBaner Y Swistir Y Swistir

Para gemau Universiade y gaeaf am 11 niwrnod. Mae 6 o chwaraeon gorfodol (8 o ddisgyblaethau) gan raglen gemau'r gaeaf, a hyd at 3 o chwaraeon dewisiol. Yr 8 mabolgamp orfodol yw'r biathlon, cwrlo, eirafyrddio, hoci iâ, sgio Alpinaidd, sgio traws gwlad, sglefrio ffigyrau a sglefrio ar y cyd, a sglefrio cyflym trac byr.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 (Saesneg) Summer Universiade Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) FISU History Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  3. (Saesneg) Winter Universiade Archifwyd 2015-02-04 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]