close
Neidio i'r cynnwys

Cothnais

Oddi ar Wicipedia
Cothnais
Mathregistration county, lieutenancy area of Scotland, Ardal yn yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig, siroedd yr Alban Edit this on Wikidata
PrifddinasWick Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,486 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd618 mi² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Sutherland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.4167°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Map

Sir hanesyddol, sir cofrestru, ac ardal rhaglawiaeth yn Yr Alban yw Cothnais (Saesneg: Caithness; Gaeleg yr Alban: Gallaibh;[1] Sgoteg: Caitnes).[2]

Lleoliad Cothnais yng ngogledd yr Alban

Mae Cothnais yn ffinio gyda’r sir hanesyddol Sutherland ac fel arall yn ffinio gyda’r môr. Mae ffin y tir yn dilyn cefn deuddwr ac mae’n cael ei groesi gan ddwy ffordd, yr A9 a’r A836, ac un rheilffordd sef Rheilffordd y Gogledd Pell. Ar draws y Pentland Firth mae fferïau yn cysylltu Cothnais â’r Ynysoedd Erch, ac mae ganddi awyrborth yn Wick. Mae’r ynys Stroma o fewn Cothnais.

Daw’r elfen ’Caith’ yn Caithness o enw’r llwyth Pictaidd a elwir yn Cat neu Catt. Daw’r elfen ‘-ness’ o’r Hen Norseg am ‘bentir’. Roedd y Llychlynwyr yn galw’r ardal yn ‘Katanes’,[3] sef ‘pentir pobl y Catt’.

Ystyr yr enw Gaeleg am Gothnais, Gallaibh, yw ‘ymhlith y dieithriaid’, hynny yw, y Llychlynwyr.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae arfordir Cothnais yn gartref i nythfeydd mawr, rhyngwladol bwysig o adar môr, ac mae dyfroedd Pentland Firth a Môr y Gogledd yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd morol. Yng Nghothnais mae’r ehangder mwyaf o orgors yn Ewrop. 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2020-10-29 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 12 Ebrill 2022
  2. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022
  3. Gaelic and Norse in the Landscape: Placenames in Caithness and Sutherland Archifwyd 2011-09-21 yn y Peiriant Wayback. Scottish National Heritage. tt.7–8