Georgia (talaith UDA)
| Arwyddair | Wisdom, Justice, Moderation |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | George II |
| Prifddinas | Atlanta |
| Poblogaeth | 10,711,908 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Georgia on My Mind |
| Pennaeth llywodraeth | Brian Kemp |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd |
| Gefeilldref/i | Kagoshima, Bafaria |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 153,909 km² |
| Uwch y môr | 180 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Yn ffinio gyda | De Carolina, Gogledd Carolina, Tennessee, Alabama, Florida |
| Cyfesurynnau | 33°N 83.5°W |
| US-GA | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Georgia General Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Georgia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Brian Kemp |
![]() | |
Mae Georgia yn dalaith ar arfordir de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n ddau ranbarth naturiol; Mynyddoedd Appalachia yn y gogledd a gwastadedd arfordirol yn y de. Cafodd ei sefydlu yn 1732 a'i henwi ar ôl y brenin Siôr II o Brydain Fawr, yr hynaf o'r 13 talaith gwreiddiol. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America a dioddefodd ddifrod sylweddol mewn canlyniad i ymgyrchoedd y Cadfridog Sherman yn 1864. Atlanta yw'r brifddinas. Daeth yn nhalaith yr Unol Daleithiau ym 1788.[1]

Sefydlwyd Georgia yn wreiddiol i amddiffyn De Carolina a thaleithiau eraill rhag ymosodiadau gan y Sbaenwyr yn Florida. Llywodraethwyd y dalaith gan ymddiriodolwyr yn Llundain am ei 20 mlynedd gyntaf.
Erbyn canol 19g, roedd gan Georgia mwy o ystadau tobaco neu gotwm nac unrhyw dalaith arall efo defnydd eang o gaethwasanaeth.
Doedd gan ferched ddim hawl i bleidleisio yn Georgia tan 1922.
Ffurfiwyd Cynhadledd Arweinyddiaeth Cristion y De gan Martin Luther King ym 1957 yn Atlanta.
Mae’r dalaith yn nodweddiadol am gynhyrchu eirin gwlanol, cnau daear a cnau pecan. Dyfeiswyd Coca-Cola yn Atlanta ym 1886.[2]
Dinasoedd Georgia
[golygu | golygu cod]| 1 | Atlanta | 540,922 |
| 2 | Augusta | 250,000 |
| 3 | Columbus | 190,414 |
| 4 | Savannah | 134,669 |
| 5 | Athens | 114,983 |
| 6 | Macon | 92,582 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Georgia History: Overview (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2013. Cyrchwyd 3 Ionawr 2025.
- ↑ Gwefan history.com
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) georgia.gov Archifwyd 2012-06-30 yn y Peiriant Wayback
Oriel
[golygu | golygu cod]- Cors Okefenokee
