close
Neidio i'r cynnwys

Restore Britain

Oddi ar Wicipedia
Restore Britain
Enghraifft o:plaid wleidyddol, sgism Edit this on Wikidata
Cyllidebright-wing populism, nativism, Christian nationalism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu13 Chwefror 2026, 30 Mehefin 2025 Edit this on Wikidata
SylfaenyddRupert Lowe Edit this on Wikidata
Enw brodorolRestore Britain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.restorebritain.org.uk/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Restore Britain yn blaid wleidyddol genedlaethol geidwadol o'r asgell dde i'r dde eithafol yn y Deyrnas Unedig. Ffurfiwyd y blaid yn gychwynnol fel grŵp pwyso gan Rupert Lowe AS ar 30 Mehefin 2025 a sefydlwyd yn ffurfiol fel plaid wleidyddol ar 13 Chwefror 2026 ar ôl gwrthdaro hirhoedlog ag arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage.[1]

Prif bolisïau

[golygu | golygu cod]
Rupert Lowe AS, sylfaenydd Restore Britain, 2024

Mae gwyddonwyr gwleidyddol yn disgrifio Restore fel plaid ethno-genedlaethol agored, ac i'r dde o Reform UK.[2] Fe'i hystyrir yn rhan o'r dde radical[3] ac mae astudiaethau wedi'i dosbarthu fel plaid o'r dde eithafol.[4] Mae Lowe wedi nodi ei fod yn ddi-hid i bobl yn disgrifio Restor fel plaid "dde-ethafol" neu hiliol.[5]

Mae'r blaid yn dadlau dros ad-fudo sef alltudio pobl heb statws cyfreithiol o'r Deyrnas Unedig ar raddfa fawr, gan gynnwys cyrraedd sefyllfa o mewnfudo net-negatif. Mae'r blaid eisiau galw refferendwm ar adfer y gosb eithaf, am dynnu cyllid cyhoeddus yn ôl o'r BBC, gwahardd y burqa a'r niqab, cyfreithloni meddu ar chwistrell pupur, ac ehangu cwmpas cyfreithiol "grym rhesymol" i amddiffyn y cartref. Mae hefyd wedi cyfeirio at atal "wokery" a gwahardd lladd cosier Iddewig a halal Mwslemaidd.

Etholiadau a gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2024, etholwyd Lowe i Dŷ'r Cyffredin fel aelod o Reform UK,[6] Ar 13 Chwefror 2026, cyhoeddodd Lowe ei fod yn lansio plaid newydd ar ôl i'r blaid gael ei chofrestru'n swyddogol.[7] Erbyn mis Mawrth 2026, roedd y blaid a Lowe wedi ennill eu sedd swyddogol gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin.[8]

Mae'r blaid wedi cael ei gweld fel un fwy asgell dde eithafol na Reform UK ar y sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys gan The Economist.[9][10]

Mae'r blaid eisiau alltudio pob mewnfudwr anghyfreithlon, gwahardd y burqa,[11] diddymu'r system loches a diogelu buddiannau Prydain.[12]

Cymru a Restore Britain

[golygu | golygu cod]

Ni safodd Restore Britain yn Etholiad Senedd Cymru, 2026.[13] Ym mis Awst 2025 galwodd arweinydd y blaid, Rupert Lowe, am ddiddymu Senedd Cymru gan ddweud, "“scrapping the entire Welsh Assembly would be a positive move for Britain.”[14]

Ei gwleidydd etholedig gyntaf yng Nghymru oedd Owain Clatworthy, cynghorydd 21 oed dros Bryn Cenfig a Chefn Cribwr. Roedd Clatworthy yn gynghorydd Reform UK ar Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn 6ed ar restr y blaid honno ar gyfer yr etholiad yn sedd Pen-y-bont Bro Morgannwg yn Senedd Cymru ym mis Mai 2026. Gadawodd Reform am Restore ar 18 Ebrill gan sôn am "ddiffyg sgiliau trefnu a disgyblaeth" o fewn y blaid.[14]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Lowe was elected in 2024 as a Reform UK MP, but was thrown out in March after a major falling out with party leader Nigel Farage and then chairman Zia Yusuf". www.bbc.com. 2025-10-17. Cyrchwyd 2026-06-05.
  2. Abbas, Tahir; Akhtar, Parveen (1 Mai 2026). "Manufacturing Consent: Faragism and the Hegemonic Struggle for Britain" (yn en). Sociology Compass 20 (5). doi:10.1111/soc4.70207. ISSN 1751-9020. https://compass.onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1111/soc4.70207.
  3. Harrison, Ed; Brown, Olivia (1 March 2026). "Listening to the Funhouse Mirror: How Social Media is Reshaping British Politics" (yn EN). Political Insight 17 (1): 22–25. doi:10.1177/20419058261436087. ISSN 2041-9058. https://journals.sagepub.com/doi/full/10.1177/20419058261436087.
  4. Samaras, Georgios (10 Mehefin 2026). "Make Britain Great Again: The morphology of Restorationist Re-politics" (yn EN). Politics. doi:10.1177/02633957261455903. ISSN 0263-3957.
  5. Lowe, Rupert [@RupertLowe10] (16 Chwefror 2026). "Restore Britain has been called 'far-right' and 'racist' ..." (Trydariad). Cyrchwyd 19 Chwefror 2026 drwy Twitter.
  6. "Last election result for Rupert Lowe - MPs and Lords - UK Parliament". members.parliament.uk. Cyrchwyd 2026-06-05.
  7. "Great Yarmouth MP Rupert Lowe launches Restore Britain party". www.bbc.com. 2026-02-14. Cyrchwyd 2026-06-05.
  8. "Parliamentary career for Rupert Lowe - MPs and Lords - UK Parliament". members.parliament.uk. Cyrchwyd 2026-06-05.
  9. "Meet the political movement that's too right-wing for Nigel Farage". POLITICO. 2025-08-11. Cyrchwyd 2026-06-08.
  10. "British politicians are racing to the hard right". The Economist. ISSN 0013-0613. Cyrchwyd 2026-06-15.
  11. "Restore Britain would ban the burqa". The New York Times. 2026-03-22. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2026-06-08.
  12. "Reverse Mass Immigration". Restore Britain. Cyrchwyd 2026-06-08.
  13. "Restore Britain not confirming candidates for Welsh parliament elections". Tudalen Facebook Reform-Team Wales. 23 Mawrth 2026.
  14. 1 2 "Disgruntled ex-Reform Senedd candidate announces jump to Restore Britain". Nation.Cymru. 18 Ebrill 2026.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.