Niqab
| Math | fêl, Tasattur |
|---|---|
| Enw brodorol | نِقاب |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04spg7 |
Dilledyn yw'r niqab (orgraff Gymraeg, nicab) hefyd niqāb, neu niqaab (/nɪˈkɑːb/; Arabic: نقاب), gelwir hefyd yn ruband (Persian: روبند), rubandah (روبنده) neu (tafodieithol) qab, ar gyfer menywod Mwslimaidd. Gelwir menywod sy'n gwisgo niqab yn gyhoeddus yn niqabi. Mae llawer o niqabis yng ngwledydd Mwslemaidd Swnni megis Kuwait, Saudi Arabia, Bahrain, Qatar, Iemen, a'r Aifft. Fel arfer mae niqab yn gorchuddio ei chorff cyfan, ond yn wahanol i'r burqa, nid yw'n gorchuddio'r llygaid a'r dwylo. Yn wahanol i'r burqa sy'n un darn o ddefnydd nad sy'n arddangos unrhyw beth o ffurf y ddynes, mae gan y niqab lewys ac yn dangos ffurf y breichiau.
Niqab ar draws y byd
[golygu | golygu cod]Yn Ffrainc, yr Eidal, Denmarc, Awstria, y Swistir, Latfia, Bwlgaria, Sri Lanka, Moroco, Tiwnisia, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd mae gwisgo niqab (a'r burqa) eu cyfyngu. Fodd bynnag, yn Afghanistan, mae gwisgo'r niqab a'r burqa yn ofynnol yn ôl y gyfraith o dan lywodraeth y Taliban.[1][2]

Traddodiad, neu grefydd
[golygu | golygu cod]Nid yw'r gwahanol 'madhhab' (ysgol feddwl o fewn cyfreitheg Islamaidd) Hanafi, Maliki a Shafi'i yn ei gwneud yn ofynnol i wisgo niqab. Gydag hyn, gellir dadlau nad yw gwisgo'r niqab yn ofyniad gorfodol cyffredinol. Felly, mae ysgolheigion Islamaidd a chyfreithegwyr Islamaidd cyfoes wedi cytuno nad oes gofyn i fenywod orchuddio eu hwyneb.[3][4] Mae nifer o resymau pam y gall menywod orchuddio eu hwyneb yn gyhoeddus, a rhaid deall yr arfer hwn o fewn cyd-destun cymdeithasol penodol[3] yn ogystal â'u madhhab.
Arddulliau o'r niqab
[golygu | golygu cod]Ceir sawl gwahanol arddull o'r niqab a gorchuddion wyneb eraill a wisgir gan fenywod Mwslimaidd ledled y byd. Y ddau ffurf fwyaf cyffredin yw'r hanner niqab a'r niqab arddull y Gwlff neu'r niqab llawn.
- Mae'r hanner niqab yn ddarn syml o ffabrig gydag elastig neu rhubannau i glymu ac fe'i gwisgir o amgylch yr wyneb. Mae'r dilledyn hwn fel arfer yn gadael y llygaid a rhan o'r talcen yn weladwy.
- Mae niqab arddull y Gwlff neu'r niqab llawn yn gorchuddio'r wyneb yn llwyr. Enwir ar ôl ardal Culfor Persia a adweinir fel 'Y Gwlff'. Mae'n cynnwys band uchaf sydd wedi'i glymu o amgylch y talcen, ynghyd â darn hir llydan o ffabrig sy'n gorchuddio'r wyneb, gan adael agoriad i'r llygaid. Mae gan lawer o niqab llawn ddwy haen neu fwy o haenau tryloyw ynghlwm wrth y band uchaf, y gellir eu gwisgo wedi'u fflipio i lawr i orchuddio'r llygaid neu eu gadael dros ben y pen. Er na fyddai person sy'n edrych ar fenyw sy'n gwisgo niqab gyda gorchuddion llygaid yn gallu gweld ei llygaid, byddai'r fenyw sy'n gwisgo'r niqab yn gallu gweld allan trwy'r ffabrig tenau.
Cymru a'r Nicab
[golygu | golygu cod]Nid oes gan Lywodraeth Cymru na deddfwriaeth y DU unrhyw waharddiad cyffredinol ar wisgo'r burqa neu'r niqab mewn mannau cyhoeddus. Mae gwisgo dillad crefyddol yn cael ei ddiogelu o dan hawliau rhyddid crefyddol a mynegiant. Yn 2026 galwodd plaid Restore Britain am wahardd y niqab a'r burqa.[5]
Fodd bynnag, mae yna reoliadau penodol yn ymwneud â'i wisgo mewn amgylchiadau lle mae angen gwirio hunaniaeth bersonol neu ddiogelwch:
- Dibenion Adnabod: Gall gweithwyr proffesiynol, megis swyddogion ffiniau neu staff mewn ysbytai, ofyn i fenyw dynnu gorchudd wyneb dros dro os oes angen cadarnhau ei hunaniaeth yn erbyn pasbort neu ddogfen deithio.
- Pwerau Heddlu: Mae gan yr heddlu’r hawl i ofyn i rywun dynnu gorchudd wyneb os ydynt yn credu y gallai gael ei ddefnyddio i guddio hunaniaeth mewn ardal sy'n destun gorchymyn stopio a chwilio. Os oes modd, mae'n rhaid i hyn ddigwydd mewn man preifat ac o flaen swyddog o'r un rhyw.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Dynes yn Sawdi Arabia mewn nicab
- Eifftes mewn nicab
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Niqab ar wefan Encyclopædia Britannica
- What's the difference between a hijab, niqab and burka? erthygl gyflwyno syml
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Afghanistan face veil decree: 'It feels like being a woman is a crime'" (yn Saesneg). 2022-05-15. Cyrchwyd 2024-10-04.
- ↑ "Afghan women deplore Taliban's new order to cover faces in public". Al Jazeera (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-04.
- 1 2 Juan Eduardo Campo, gol. (2009). "Burqa". Encyclopedia of Islam. Infobase Publishing. ISBN 9781438126968.
- ↑ Hadia Mubarak (2009). "Burqa". In John L. Esposito (gol.). The Oxford Encyclopedia of the Islamic World. Oxford: Oxford University Press.
- ↑ "Restore Britain would ban the burqa and ban the niqab". Cyfrif X Restore Britain. 24 Mawrth 2026.
- ↑ "What are the rules on burkas and niqabs in the UK?". Gwefan Full Fact. 10 Awst 2018.