close
Neidio i'r cynnwys

Y Waun

Oddi ar Wicipedia
Y Waun
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,396 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,908.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9303°N 3.0503°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000222 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ295375 Edit this on Wikidata
Cod postLL14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddGwynedd Maldwyn
Etholaeth y DUSteve Witherden (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Waun[1] (Saesneg: Chirk).[2] Saif ar y ffin â Lloegr. Mae'n enwog fel lleoliad Castell y Waun.

Roedd yr hen blwyf yn cynnwys y trefgorddau Y Waun, Bryncunallt, Gwernospin, Halchdyn a Phenyclawdd.

Rhwng 1282 a'r 1540au, Y Waun oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Swydd y Waun, a oedd yn cynnwys hen gymydau Cynllaith, Mochnant Is Rhaeadr, a Nanheudwy. Daeth Y Waun yn rhan o'r hen Sir Ddinbych yn y 1540au, ac arosodd yn y sir honno tan 1974. Roedd yng Nghlwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers 1996.

Mae priffordd yr A5, un o ffyrdd Thomas Telford, yn mynd trwy'r Waun. Hefyd, mae Dyfrbont y Waun yn cario Camlas Undeb Swydd Amwythig dros Afon Ceiriog.

Cyrhaeddodd y rheilffordd y dref yn 1884, yn cysylltu'r Waun ag Amwythig a Chaer. Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont, oherwydd y cydymgais rhwng y rheilffyrdd a'r camlesydd.

Tan y 1960au, roedd Y Waun yn dref lofaol gyda'r mwyafrif o'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Parc Du, Bryncunallt ac Ifton (dros y ffin yn Llanfarthin).

Mae gorsaf yna ar y llinell Amwythig i Gaer.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Waun (pob oed) (4,468)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Waun) (461)
 
10.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Waun) (2934)
 
65.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Y Waun) (678)
 
35.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]