Leverkusen
| Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, ardal drefol Gogledd Rhine-Westphalia |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Carl Leverkus |
| Poblogaeth | 166,414 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Uwe Richrath, Ludwig Simon |
| Gefeilldref/i | Schwedt/Oder, Oulu, Ljubljana, Nasareth, Chinandega, Villeneuve-d'Ascq, Racibórz, Wuxi, Bwrdeistref Bracknell Forest |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ardal Llywodraethol Cwlen |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 78.87 km² |
| Uwch y môr | 60 metr, 61 metr, 52 metr |
| Yn ffinio gyda | Cwlen, Mettmann, Burscheid, Ardal Rhein-Berg |
| Cyfesurynnau | 51.0333°N 6.9833°E |
| Cod post | 51368–51381 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Uwe Richrath, Ludwig Simon |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Gogledd Rhein a Westfalen yn yr Almaen yw Leverkusen (Almaeneg: [ˈleːvɐˌkuːzn̩]). Mae wedi'i leoli ar lan ddwyreiniol y Rhein. Mae'r ddinas yn rhan o Ranbarth Metropolitan Rhein-Ruhr, ac mae'n ffinio â dinas Cwlen yn y de a phrifddinas y dalaith Düsseldorf yn y gogledd.
Mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus am y cwmni fferyllol Bayer, sydd â'i bencadlys yno, a'i chlwb pêl-droed Bayer Leverkusen. Mae hefyd yn gartref i'r clwb pêl-fasged Bayer Giants Leverkusen.
Cafodd y ddinas ei hailenwi yn 1930 ar ôl fferyllydd lleol, Carl Leverkus (5 Tachwedd 1804 – 4 Chwefror 1889). [1]
Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth Leverkusen yn 166,414 (31 Rhagfyr 2023).
Hanes
[golygu | golygu cod]Y sefydliad gwreiddiol o'r hyn a elwir heddiw yn Leverkusen oedd Wiesdorf, pentref ar lan y Rhein, pentref sy'n dyddio'n ôl i'r 12g.[2] Gyda'r pentrefi cyfagos bellach wedi'u hymgorffori, mae'r ardal hefyd yn cynnwys afonydd Wupper a Dhünn,[3] ac wedi dioddef llawer o lifogydd dros y blynyddoedd, yn enwedig yn 1571 a 1657, gyda llifogydd 1657 yn arwain at symud Wiesdorf i'r dwyrain o'r afon i'w leoliad presennol.[2]
Yn ystod Rhyfel Cwlen rhwng 1583 ac 1588, cafodd Leverkusen ei difrodi'n ulw gan ryfel. Roedd yr ardal gyfan yn wledig tan ddiwedd y 19g, pan sefydlwyd sawl diwydiant, a arweiniodd at sefydlu dinas Leverkusen, ac at iddi ddod yn un o ganolfannau pwysicaf diwydiant cemegol yr Almaen. Dinas cymharol newydd yw hi felly.
Ym 1975, ymunodd Opladen (sy'n cynnwys Quettingen a Lützenkirchen), Hitdorf a Bergisch Neukirchen â Leverkusen. Mae'r ddinas bresennol yn cynnwys hen bentrefi, a elwid yn wreiddiol yn Wiesdorf, Opladen, Schlebusch, Manfort, Bürrig, Hitdorf, Quettingen, Lützenkirchen, Steinbüchel, Rheindorf a Bergisch-Neukirchen.[4]
Ar 27 Gorffennaf 2021, lladdodd ffrwydrad ar safle Chempark yn y ddinas 7 o bobl ac anafwyd 31.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dr. Leverkus has german roots". www.uni-wuerzburg.de (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-12.
- 1 2 Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 17. ISBN 978-3866809703.
- ↑ Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 6. ISBN 978-3866809703.
- ↑ >Braun, Detlef (2012). Leverkusen. Erfurt: Sutton. t. 6. ISBN 978-3866809703.
- ↑ "Explosion in Chempark Leverkusen: Investigations initiated against three employees;". RND. RND/dpa. 19 Hydref 2021. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023.
