close
Neidio i'r cynnwys

Folt

Oddi ar Wicipedia
Folt
Enghraifft o:System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM, uned botensial trydanol, uned wahaniaeth potensial trydanol, uned foltedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07_7_ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o unedau deilliadol y System Ryngwladol o Unedau yw'r folt (symbol: V), a ddefnyddir i fesur gwahaniaeth potensial a grym electromotif.[1]

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Diffinnir y folt (V) fel y gwahaniaeth potensial rhwng dau bwynt ar wifren ddargludol sy'n cynnal cerrynt cyson o 1 amper (A), pan fo'r pŵer sy'n cael ei wasgaru rhwng y pwyntiau hyn yn hafal i 1 wat (W).[1]

Yn y pen draw, gellir mynegi hyn yn ei dro yn nhermau unedau sylfaenol SI, sef metr (m), cilogram (kg), eiliad (s), ac amper (A):

Yn yr un modd, gellir cynrychioli'r folt fel y gwahaniaeth potensial rhwng dau bwynt a fydd yn rhoi 1 joule (J) o egni fesul coulomb (C) o wefr drydanol sy'n mynd drwyddo.

Gellir mynegi hyn hefyd yn nhermau unedau sylfaenol:

Gellir ei gynrychioli hefyd yn nhermau amperau (A) ac ohmau (Ω) (cerrynt wedi'i luosi â gwrthiant, gweler Deddf Ohm):

neu weberau (Wb) yr eiliad (s) (fflwcs magnetig dros amser), neu watiau (W) yr amper (A) (pŵer dros gerrynt), neu joules (J) y coulomb (C) (ynni dros gwefr)l:

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y cymegydd a ffisegydd o'r Eidal Alessandro Volta (1745–1827) a wnaeth ymchwil gynnar ym maes trydan.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026