Llanilar
| Math | pentref, cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,085, 1,096, 1,055 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ceredigion |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,828.02 ha |
| Cyfesurynnau | 52.35°N 4.02°W |
| Cod SYG | W04000386 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y Senedd | Ceredigion Penfro |
| Etholaeth y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Tref fechan yng Ngheredigion yw Llanilar, sy'n gorwedd ar yr A485 tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Roedd ganddi 1085 o drigolion, a 60% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).[1]
Mae Afon Ystwyth yn rhedeg heibio i'r pentref. Ar y bryn gerllaw ceir castell mwnt a beili a godwyd gan y Normaniaid.
Saif Ysgol Gynradd Llanilar, swyddfa bost, meddygfa a garej yn y pentref. Sefydlwyd Sioe Llanilar ym 1903, a chynhelir y sioe amaethyddol hon bob blwyddyn yn gynnar ym mis Awst.
Mae'r cyflwynydd teledu adnabyddus Dai Jones yn byw ac yn ffermio yn Llanilar.
Eglwys Sant Ilar
[golygu | golygu cod]- Prif: Eglwys Sant Ilar
Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Ilar, unig eglwys Sant Ilar.[2] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Ionawr 1964 ar Radd II* oherwydd ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol a bod ei tho pren, cerfiedig, yn nodedig iawn. Ceir maen y tu allan i'r eglwys, bellach yn rhan o'r wal, lle dywedir i Harri Tudur farchogaeth ei geffyl, ar ei daith drwy ogledd a chanolbarth Cymru i fyny at Machynlleth, cyn troi i'r dwyrain tuag at Maes Bosworth.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Community population 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 13 Mai 2015.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 9 Mai 2016.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Sioe Llanilar Archifwyd 2009-08-27 yn y Peiriant Wayback
- Ysgol Gynradd Llanilar Archifwyd 2009-05-06 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llannarth · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen
