Ivor Allchurch
| Ivor Allchurch | |
|---|---|
| Ffugenw | Golden Boy |
| Ganwyd | 16 Hydref 1929 Abertawe |
| Bu farw | 10 Gorffennaf 1997 Abertawe |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Taldra | 1.78 metr |
| Gwobr/au | MBE |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | C.P.D. Dinas Caerdydd, Newcastle United F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Worcester City F.C. |
| Safle | blaenwr, mewnwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
| Gyrfa Lawn* | |||
|---|---|---|---|
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1947–1958 | Tref Abertawe | 327 | (124) |
| 1958–1962 | Newcastle United | 143 | (46) |
| 1962–1965 | Dinas Caerdydd | 103 | (39) |
| 1965–1968 | Tref Abertawe | 118 | (40) |
| Cyfanswm | 691 | (249) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1950–1966 | Cymru | 68 | (23) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Gymru oedd Ivor John Allchurch (16 Hydref 1929 – 10 Gorffennaf 1997). Fe'i magwyd yn Abertawe. Roedd yn frawd i Len Allchurch a oedd hefyd yn nhîm Cymru.
Chwaraeodd rôl bwysig fel ymosodwr i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd yr wyth olaf yng nghystadlaeaeth Cwpan y Byd Pêl-droed 1958, a dyma hefyd pan y daeth i amlygrwydd yn gyntaf. Cafodd 68 cap dros ei wlad, record hyd at 1986, pan gafodd ei dorri gan Joey Jones.[1] Ef hefyd oedd sgoriwr y nifer mwyaf o goliau dros Gymru: 28 gôl, a thorrwyd y record yma'n ddiweddarach gan Ian Rush.
Cychwyn arni
[golygu | golygu cod]Yn 1947, cychwynodd ei yrfa bêl-droed yn nhref ei eni - Abertawe, ond byr iawn y parhaodd yno oherwydd y cafodd ei alw i'r fyddin. Ei dymor cyntaf, mewn gwirionedd, oedd 1950–51. Chwaraeodd 445 gwaith i Abertawe gan sgorio 164 o goliau.
Ymunodd â Newcastle United yn 1958 am £28,000.[2] Yn Awst 1962 symudodd i Gaerdydd gan sgorio yn ei gêm gyntaf - yn erbyn Newcastle United![1] Y tymor hwnnw (1963–64), ef oedd sgoriwr ucha'r Clwb ac felly hefyd y tymor dilynol (1964–65). Ar ddiwedd tymor 1967–68 ymunodd gyda Worcester City. Ac yna, am ysbaid, bu'n rheolwr-chwaraewr gyda Hwlffordd gan orffen ei yrfa'n chwarae i Bontardawe - yn 0 oed. Dros ei yrfa roedd wedi chwarae 691 o gemau'r Gynghrair ac wedi sgorio 249 o goliau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Hayes, Dean (2006). The Who's Who of Cardiff City. Breedon Books. ISBN 1-85983-462-0.
- ↑ Jones, Ken (12 Gorffennaf 1997). "Obituary: Ivor Allchurch". London: The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-16. Cyrchwyd 2010-05-06.