Mel Charles
| Mel Charles | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Mai 1935 Abertawe |
| Bu farw | 24 Medi 2016 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, hunangofiannydd |
| Plant | Jeremy Charles |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | C.P.D. Sir Hwlffordd, C.P.D. Dinas Caerdydd, Arsenal F.C., Port Vale F.C., Oswestry Town F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Porthmadog, Leeds United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed |
| Safle | amddiffynnwr, blaenwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn-chwaraewr pêl-droed o Gymru oedd Melvyn Charles (14 Mai 1935 – 24 Medi 2016).
Ganed ef yn Abertawe, yn frawd i'r pêl-droed John Charles. Rhwng 1952 a 1959, chwaraeodd dros 250 o gemau i C.P.D. Dinas Abertawe. Yn 1959, arwyddodd dros Arsenal am £40,000. Bu anafiadau yn broblem iddo yn y cyfnod yma, ond mewn tri thymor chwaraeodd 64 gwaith i Arsenal, gan sgorio 28 o weithiau. Yn 1962 symudodd i C.P.D. Dinas Caerdydd, lle treuliodd ddau dymor, gan chwarae 81 gwaith iddynt. Symudodd i C.P.D. Porthmadog am £1,250, cyn symud eto i Port Vale yn 1967. Bu'n chwarae wedyn i C.P.D. Croesoswallt a C.P.D. Hwlffordd.
Chwaraeodd 31 gwaith dros Gymru, gan sgorio chwech o weithiau, gan gynnwys pedair gôl mewn gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn 1961.
Yn ei flynyddoedd olaf bu'n byw mewn cartref gofal yn Abertawe a bu farw yn 81 mlwydd oed.[1]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- In the Shadow of a Giant: the Autobiography of Mel Charles (Llundain: John Blake, 2009)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mel Charles wedi marw , Golwg360, 25 Medi 2016. Cyrchwyd ar 26 Medi 2016.